Ydych chi yn Reolwr sydd yn awyddus i gynnig cyfle unigryw a gwerthfawr i hyfforddai yma yng Nghyngor Gwynedd?
Ydych chi wedi clywed am Gynlluniau Yfory ond ddim yn siŵr beth mae’n ei olygu?
Gwyliwch y fideo isod am fwy o wybodaeth!
Beth yw Pwrpas y Cynlluniau?
Pwrpas Cynlluniau Yfory yw datblygu unigolion i’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi allweddol o fewn y Cyngor. Mae’r cynlluniau yn rhoi’r cyfle i unigolion gael y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau sydd eu hangen i roi sylfaen gadarn i gychwyn gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Yn rhan o Gynlluniau Yfory mae Cynllun Rheolwyr Yfory, a Chynllun Arbenigwyr Yfory.
Pwrpas Cynllun Rheolwyr Yfory yw datblygu rheolwyr newydd i ymgymryd â swyddi rheoli allweddol o fewn y Cyngor, a phwrpas Cynllun Arbenigwyr Yfory yw datblygu unigolion i arbenigo mewn meysydd penodol o fewn y Cyngor ac i ymgymryd â swyddi arbenigol allweddol o fewn y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn falch fod y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael swydd barhaol yn y Cyngor ar ddiwedd y Cynlluniau.
Trosolwg o’r Cynlluniau
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn pob cefnogaeth ac adnodd posib i ennill cymhwyster proffesiynol lefel uwch.
- Bydd yr hyfforddai yn cael profiad o weithio o fewn adrannau amrywiol ac yn cyfrannu at waith dydd i ddydd mewn amrediad o Wasanaethau ar draws y sir.
- Bydd cyfle iddynt gael profiadau gwerthfawr tu hwnt i’r arferol, fydd yn cyfarch yr elfennau gwleidyddol, strategol, gweithredol a gwaith rheng flaen sydd y rhannau annatod o swyddogaeth y cyngor.
- Bydd cefnogaeth ac adolygiadau parhaus yn digwydd drwy gydol y ddwy flynedd i sicrhau fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y gorau o’r cynllun.
Wrth fanteisio ar yr uchod, bydd y darpar reolwr yn datblygu’r hyder, sgiliau a dealltwriaeth o’r ymddygiadau hanfodol y bydd eu hangen i fod yn reolwr effeithiol yng Nghyngor Gwynedd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Alun Lloyd Williams (CG)