Llongyfarchiadau!
Rydych chi wedi graddio ac yn chwilio am y cam nesaf i’w gymryd yn eich gyrfa. Beth am ymgeisio i fod yn rhan o Gynlluniau Yfory Cyngor Gwynedd?

Bydd ymuno gyda Chynlluniau Yfory yn datblygu eich sgiliau ac yn sicrhau eich bod yn magu hyder gan eich paratoi i fod yn un o arweinwyr y sefydliad yn y dyfodol.
Mae dau gynllun yn rhedeg o fewn y Cyngor sef Cynllun Rheolwyr Yfory a Chynllun Arbenigwyr Yfory. Yn dilyn cwblhau eich Cynllun yn llwyddiannus byddwch yn barod i ymgeisio ar gyfer swyddi ar lefel uwch o fewn y Cyngor a allai gynnwys cyfrifoldeb rheolaethol neu arbenigol mewn maes penodol.
Byddwch yn elwa o fentora, cefnogaeth a hyfforddiant gan ddarlithwyr ac arbenigwyr maes drwy ddilyn cymwysterau mewn Prifysgolion amrywiol ym Mhrydain, a byddwch hefyd yn cael amryw o brofiadau unigryw, cyffrous a heriol ar eich taith.
Bwriad y blogiau yw i’ch helpu i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â dilyn y cam nesaf yn eich gyrfa, a gobeithiwn y byddwn yn eich croesawu yn rhan o dîm Cyngor Gwynedd yn fuan iawn!
Awyddus i ddysgu mwy?
Dyma fideo sy’n cyflwyno ychydig am yr hyfforddeion presennol.
Mwynhewch ac ewch ati i ddarllen eu blogiau trwy glicio ar eu henwau ar dop y dudalen.