Mae Cynllun i Raddedigion Cyngor Gwynedd, sef Cynllun Rheolwyr Yfory yn cynnig y cyfle i chi ennill profiadau a chymwysterau, yn ogystal a datblygu rhwydweithiau i ddechrau eich gyrfa mewn arweinyddiaeth a rheoli.
Gwyliwch y fideo isod am fwy o wybodaeth!
Pwrpas y Cynllun
Pwrpas Cynllun Rheolwyr Yfory yw datblygu rheolwyr newydd o’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi rheoli allweddol o fewn y Cyngor. Mae’r cynllun yn rhoi’r cyfle i reolwyr y dyfodol gael y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau sydd eu hangen gan gynnig sylfaen gadarn i gychwyn gyrfa mewn arwain a rheoli.
Mae’r Cyngor yn falch fod y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael swydd barhaol yn y Cyngor ar ddiwedd y Cynllun, a rhan helaeth mewn swydd arwain neu reoli erbyn hyn.
Trosolwg o’r Cynllun
- Bydd y cynllun yn ddwy flynedd o hyd
- Yn ystod y ddwy flynedd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn pob cefnogaeth ac adnodd posib i ennill cymhwyster proffesiynol lefel uwch.
- Bydd yr hyfforddai yn cael profiad o weithio o fewn adrannau amrywiol ac yn cyfrannu at waith rheolaethol dan arolygaeth mewn amrediad o Wasanaethau ar draws y sir.
- Bydd cyfle i gael profiadau gwerthfawr tu hwnt i’r arferol, a fydd yn cyfarch yr elfennau gwleidyddol, strategol, gweithredol a gwaith rheng flaen sydd y rhannau annatod o swyddogaeth y cyngor.
- Bydd cefnogaeth ac adolygiadau parhaus yn digwydd drwy gydol y ddwy flynedd i sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y gorau o’r cynllun.
Wrth fanteisio ar yr uchod, bydd y darpar reolwr yn datblygu’r hyder, sgiliau a dealltwriaeth o’r ymddygiadau hanfodol y bydd eu hangen i fod yn reolwr effeithiol yng Nghyngor Gwynedd.
Cyflog
Y raddfa gyflog fydd £22,434 – £24,717 (Graddfa S2).
Bydd yr union bwynt cyflog yn ddibynol ar gynnydd.
Bydd hyd at 2 swydd ar gael.
Beth ydi’r gofynion sylfaenol?
Bydd rhaid i ymgeiswyr gyrraedd y gofynion sylfaenol isod:
- Eich bod yn meddu ar (neu yn debygol) o ennill gradd dosbarth 2:1 neu uwch. Fe all eich gradd fod mewn unrhyw faes. Fe rydych yn gymwys i ymgeisio pryd bynnag y gwnaethoch chi raddio.
- Eich bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Eich bod yn meddu ar TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth
- Eich bod wir eisiau gweithio mewn llywodraeth leol
- Eich bod wedi dangos parodrwydd i arwain eraill e.e. mewn sefyllfa addysgiadol (ysgol, coleg, prifysgol), chwaraeon, gymdeithasol, gymunedol neu waith.
Cymhwyster CMI
- Bydd yr hyfforddeion rheoli yn astudio cymhwyster lefel 7 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth drwy’r CMI yn y Ganolfan Reolaeth ym Mangor.
- Mae’r cymhwyster yn cael ei gydnabod ym maes Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar draws y byd.
- Mae lefel y cymhwyster yn gyfwerth â gradd meistr.
- Bydd y cymhwyster yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o sesiynau wyneb i wyneb, rhwydweithio, webinars a digwyddiadau rhanbarthol.