Mae Cynllun Arbenigwyr Yfory yn rhan o Gynlluniau Yfory Cyngor Gwynedd – cynlluniau ar gyfer graddedigion i ddatblygu gyrfaoedd a llenwi swyddi allweddol yng Nghyngor Gwynedd.
Gwyliwch y fideo isod am fwy o wybodaeth am Gynlluniau Yfory Cyngor Gwynedd!
Pwrpas y Cynllun.
Pwrpas Cynllun Arbenigwyr Yfory yw datblygu arbenigwyr o’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi arbenigol allweddol o fewn y Cyngor. Mae’r cynllun yn rhoi’r cyfle i arbenigwyr y dyfodol gael y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau sydd eu hangen i roi sylfaen cadarn i gael cychwyn gyrfa yn y Cyngor.
Trosolwg o’r Cynllun.
- Yn ystod cyfnod y Cynllun bydd yr hyfforddai yn derbyn pob cefnogaeth ac adnodd posib i ennill cymhwyster proffesiynol lefel uwch
- Bydd yr hyfforddai yn cael profiad o weithio o fewn gwasanaethau amrywiol ac yn cyfrannu at waith arbenigol dan arolygaeth mewn amrediad o wasanaethau ar draws y sir
- Bydd cyfle i gael profiadau gwerthfawr tu hwnt i’r arferol, fydd yn cyfarch yr elfennau gwleidyddol, strategol, gweithredol a gwaith rheng flaen sydd y rhannau annatod o swyddogaeth y Cyngor
- Bydd cefnogaeth ac adolygiadau parhaus yn digwydd drwy gydol cyfnod y Cynllun i sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y gorau o’r cynllun
Wrth fanteisio ar yr uchod, bydd yr hyfforddai yn datblygu’r hyder, sgiliau a dealltwriaeth o’r ymddygiadau hanfodol y bydd eu hangen i fod yn arbenigwr effeithiol yn y Cyngor am flynyddoedd i ddod.
Profiadau.
Bydd y profiadau a gaiff yr hyfforddai yn cynnwys:
- Gweithio mewn lleoliadau ar draws adrannau a safleoedd ar draws y Sir
- Cyfle i fod yn rhan o brosiectau lefel uchel
- Cyfle i gyfarfod pobl allweddol gan gynnwys y Prif Weithredwr, Arweinydd y Cyngor a Phenaethiaid Adran
- Ymweld â nifer o wasanaethau rheng flaen megis y ganolfan alwadau, canolfannau ailgylchu, cartrefi preswyl, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd
- Cyfle i fod yn rhan o rwydweithiau ar draws y Cyngor
Y Cymhwyster.
Bydd y cymhwyster y bydd yr hyfforddai arbenigol yn ei astudio yn amrywio yn ddibynnol ar y maes arbenigol.