Adlewyrchu ar fy nhair wythnos gyntaf…

Ar ôl tair wythnos ar y Cynllun bellach, mae’n debyg ei bod hi’n hen bryd i mi ddechrau adlewyrchu ar fy wythnosau cyntaf fel Hyfforddai yn y Cyngor.

Wythnos anwytho oedd yr wythnos gyntaf i ddweud y gwir – cyfarfod fy rheolwr llinell, fy nghyd-weithwyr adran, fy rheolwr proffesiynol, a chysylltu gyda swyddogion eraill yn y Cyngor. Dydw i ddim y gorau am gofio enwau, felly gallwch gredu fod hyn yn sialens yn ei hun.

Wedyn i’r ail a’r drydedd wythnos. Y dasg gyntaf oedd dylunio strategaeth marchnata newydd ar gyfer Cynllun Yfory. Roedd hyn yn gofyn i mi ymchwilio i fathau gwahanol o fodelau marchnata, i feddwl am ddulliau newydd o ymgysylltu, ac i benderfynu ar gamau ac amserlen gweithredu. Bu i mi weithio’n agos gydag Amy yn hyn, a derbyn mewnbwn gan yr Hyfforddeion eraill hefyd. Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod go gyffrous yn natblygiad y strategaeth, oherwydd cafodd Cynllun Yfory ei lansio’n ffurfiol y bore ‘ma fel partner Darogan Talent – Rhwydwaith graddedigion yng Nghymru. ‘Dw i’n edrych ymlaen at y camau ymgysylltu nesaf – cysylltu â phrifysgolion, colegau a chymdeithasau graddedigion eraill.

Cawsom hefyd sgwrs ddifyr gyda Vera Jones – Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith y Cyngor. Dyma ‘crash course’ defnyddiol dros ben ar wneuthuriad gwleidyddol y Cyngor.

Ar ben hyn i gyd, ‘dw i wedi bod yn trefnu lleoliadau byr ar gyfer y misoedd nesaf cyn y Nadolig gyda nifer o adrannau gwahanol yn y Cyngor – Tîm Democratiaeth ac Iaith, Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Tîm Iechyd, Diogelwch a Lles, Llyfrgelloedd, Tîm Busnes, a chyda’r Tîm Gofal Oedolion.

‘Dw i’n edrych ymlaen felly at weld pa brofiadau y byddaf i wedi’u hennill ar ddiwedd fy nghyfnod dwy flynedd ar y Cynllun.

Tan y tro nesaf,

Osian.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .