Wythnos cyntaf Amy…

Mae’r wythnos gyntaf fel Hyfforddai Proffesiynnol Arwain a Rheoli wedi fflio heibio i ddweud y gw

Mae’r wythnos gyntaf fel Hyfforddai Proffesiynnol wedi fflio heibio i ddweud y gwir! Oedd o’n wythnos llawn cwrdd pobol diddorol a profiadau newydd, a wedi rhoi blas iawn i mi o be sydd i ddod yn yr blynyddoedd nesa’ ma o fewn Cynllun Yfory.

Cychwynnais yr wythnos yn Y Galeri yng Nghaernarfon, lle gefais y cyfle i gwrdd y hyfforddai eraill i gyd a derbyn trosolwg o’r cynllun wedi’i gyflwyno gen Alun a Meilir. Dwi mor falch fy mod wedi cael y cyfle i weld pawb wyneb yn wyneb cyn mynd ar offer i gyd adref a setio fyny swyddfa bach yn fy llofft sbâr! Ar ôl cael dod i adnabod dipyn bach mwy am yr hyfforddai, cawsant gyflwyniad brwdfrydig, gan adael i mi deimlo’n hollol gyffroes am fod yn rhan o cynllun mor amrywiol sy’n llawn cyfleon grêt. Ar ôl derbyn manylion am y Cyngor a blas am be sydd i ddod, cawsant ginio gwerth chweil yn y galeri, a cael sgwrsio a darganfod mwy am bawb arall. Dwi’n edrych ymlaen gymaint cael gweithio efo criw o hyfforddai mor uchelgeisiol, efo gymaint o amrywiad o brofiadau gwahanol i rannu!

Ar ôl llenwi ein boliau, fyny a ni i dderbyn ein offer yn barod i fynd adref. Cefais gyfle i siarad efo fy rheolwr llinell, Alun, a darganfod byddai yn gweithio ar Tim Dysgu a Datblygu’r sefydliad. Roedd y diwrnodau wedyn yn llawn sgyrsiau a cyfarfodydd difyr efo weddill y tîm, ac erbyn y diwedd, dwi’n teimlo’n rhan o rhywbeth arbennig, mae’n fraint cael cyfle mor gwych, ac yn fwy pwysig, cael helpu pobol Gwynedd. Mae yna prosiectau ecsiting ar y gweill, ac dwi’n teimlo’n hollol parod i fwrw ymlaen a gweithio’n galed ar rhain!

Wrth adlewyrchu ar brynhawn Dydd Gwener, mae hwn wedi bod yn wythnos fab, a wedi cadarnhau i mi fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir yr holl fisoedd yn ôl i fynd amdani a gwneud cais am y cynllun. Amser am coctel i ddathlu wythnos grêt, mi nai ddal fyny efo chi’n fuan! Iechyd da!

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .