Wythnos cyntaf Jess

Mae’r wythnos gyntaf wedi cyrraedd. Ar y diwrnod cyntaf oedd y saith hyfforddai newydd yn cael cyfarfod wyneb i wyneb yn y Galeri. Gymaint o trît gael cyfarfod pawb wyneb i wyneb. Cychwynnodd y dydd gyda phawb yn cael y cyfle i ddod i nabod ein gilydd. Erbyn y pnawn roeddwn wedi dysgu pethau diddorol am fy Nghydweithwyr newydd, yn gynnwys bod un wedi cael i mewn i’r top 50 i fod yn rhan o ‘Bake off’ ac un yn ysgrifennu Lladin. Dwi yn edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda nhw.  

Y cam nesaf oedd cyfarfod fy Rheolwr Llinell a dysgu am yr adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Oedd o mor ddiddorol dysgu am y gwaith i gyd sydd yn mynd i mewn i helpu pobol Gwynedd byw ei bywydau fel maen nhw eisiau, ac mor cyffroes gwybod bod byddai yn gallu bod yn rhan o rhai o’r prosiectau sydd yn helpu hyn ddigwydd.

Wnaeth y dyddiau nesaf fynd yn gyflym yn llawn efo ddarllen a deall systemau a pholisïau’r  cyngor, cwblhau e-ddysgu a chyfarfod nifer fawr o bobol wahanol. Dwi yn teimlo yn lwcus iawn fod mewn swydd lle dwi yn gallu cyfarfod gymaint o staff gwahanol yn gynnwys Uwch Rheolwyr a Phennau adrannau. Mewn ychydig o wythnosau fydda ni i gyd yn cael y cyfle gael sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r Prif Weithredwr.

Mae hi yn bnawn Dydd Gwener o’r wythnos gyntaf a dwi ddim yn gallu coelio faint mae amser wedi hedfan. Mae ychydig o bethau cyffroes yn y calendr wythnos nesaf, yn gynnwys cyfarfodydd i siarad am y prosiectau cyntaf fyddai yn gweithio ar.

Fyddai yn anelu at blogio yn aml i rannu sut mae pethau yn mynd ond am nawr amser ymlacio dros y penwythnos.

Hwyl am y tro.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .