Yr Wythnos Cyntaf..

Croeso i’r blog cyntaf, crynodeb o wythnos brysur ond diddorol iawn, mi ai a chi drwy fyn wythnos gyntaf fel hyfforddai.

I ddechrau o’r dechrau yr cam cyntaf oedd goroesi traffig Bontnewydd…a neud hi, i’r Galeri yng Nghaernarfon i gyfarfod gweddill yr hyfforddeion a’r tîm. Mae’r profiad o ddechrau unrhyw swydd newydd yn dod a thipyn o nerfau ond diflannodd heini o fewn munudau o gyfarfod Alun, Nicola a hyfforddai llynedd Meilir.

Roedd y sesiwn croeso wedi ei drefnu i ddarparu fwy o wybodaeth am y cynllun a’r cyngor, ac yn bennaf er mwyn ddod i nabod ein gilydd, drost panad wrth gwrs! Yn y prynhawn cefais y cyfle i gyfarfod fy rheolwr newydd sef Ffion, cefais y profiad o ddod i nabod y pencadlys a chael fwy o wybodaeth am yr adran cyllid ar waith roeddem yn ei wneud.

Yn y byd fel mai heddiw, mi nesi adael y pencadlys i dreulio gweddill fyn wythnos gyntaf o adra fel mwyafrif o’r wlad. Mi roedd hyn yn heriol ond cefais ddigon o gymorth drwy ddefnyddio MS Teams, lle bydden yn derbyn cyfarfodydd bron yn ddyddiol gydag amryw o bobl wahanol.

Mae yno rwydwaith ardderchog ar gael, chefais y cyfle i sgwrsio gydag Aron sef hyfforddai cyllid ag ymunodd ar gynllun yn flaenorol, sydd yn fudd o chael clywed o safbwynt hyfforddai, hefyd sgwrsio gyda Dewi Morgan, sydd yn gysylltiedig ag fy nghymhwyster CIPFA.

Yn ystod gweddill yr wythnos cefais ddigon o waith darllen adroddiadau a cwblhau modulau polisïau, er mwyn dod i nabod llawer mwy am yr cyngor ar adran cyllid ai gweithredai. Yn enwedig adran Buddsoddi syn ymwneud a’r Cronfa Pensiwn, lle fyddaf yn cael y cyfle i wneud fwy gyda yn yr wythnosau i ddod

Yn y wythnosau nesaf rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Adran Buddsoddi, a hefyd yr Adran Amgylchedd, lle byddaf yn cael y profiad o weithio gyda’r timau ar waith dydd i ddydd. Yn gydol a hyn rwyf hefyd yn edrych ymlaen at ddechrau fy nghymhwyster CIPFA (Chartered Institute Of Public Finance & Accountancy) lle mi gai parhau i ddysgu ac ehangu myn wybodaeth am y pynciau odan sylw. 

Mae’r wythnos gyntaf wedi bod yn un wych, ac rwy’n hyderus bod y teimlad hwn yn mynd i barhau i’r dyfodol wrth i mi ffeindio myn nhraed. Mae yno amseroedd cyffroes yw dod felly cadwch lygad allan am y blog nesaf!!

Hwyl am y tro,

Caleb

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .