Mewn ymdrech i greu blog ychydig yn wahanol dwi am i greu system goleuadau traffig i sôn am fy wythnos gyntaf i gesio esbonio yr holl bethau dwi wedi ddysgu yn fy wythnos cyntaf. Mae Gwyrdd yn golygu pethau dwi wedi llwyddo i’w gwneud, Melyn y pethau dwi angen i gwneud a coch pethau dwi angen atal i’w gwneud.
Gwyrdd
- Dechrau creu perthnasau gyda pobl sydd yn y Swyddfa
- Dechrau deall systemau Refeniw
- Cofrestru ar y cyrsiau IRRV
- Deall system flecsi, salwch a gwyliau
- Sicrhau fy mod i gwybod lle mae’r coffi yn gael i’w gadw/ y llefydd gorau i gael coffi yn Gaernarfon
Melyn
- Sicrhau fy mod i yn gofyn cwestiynau e.e. gofyn os nad yw ‘acronymau’ yn gwneud synnwyr
- Sicrhau fy mod i yn deall y cyfrifiadur a lle mae pethau yn cael i’w gadw
- Sicrhau fy mod i yn dal fyny gyda sgôr pêl-droed diweddaraf
- Dechrau deall systemau Trethi Cyngor a Annomestig
Coch
- Paid â chefnogi tîm Pêl-droed Arsenal sydd llawn Swyddfa o bobol sydd yn cefnogi un ai Man Utd neu Lerpwl
- Paid a cefnogi tîm pêl-droed Bangor dros Gaernarfon
- Paid ag anghofio y cerdyn gwaith sydd yn gadael i ti fewn ir adeilad
Ym mhob difrifoldeb serch hynny, mae fy wythnos cyntaf wedi bod yn hwylus ac yn addysgiadol iawn. Rwyf yn edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf i mi gael mwy o hyfforddiant ar y systemau cyllid a gael dechrau gwneud pethau yn annibynnol.
Caitlin
You must log in to post a comment.