Bron i flwyddyn ar ôl cychwyn fel Hyfforddai Proffesiynol Iechyd a Diogelwch ar y Cynllun ac yn rhyfedd iawn dwi ddim yn rhan ohono rhagor. A hynny am fy mod wedi bod ddigon lwcus i gael swydd Barhaol o fewn y cyngor. Peiriannydd Cynorthwyol Sicrwydd Ansawdd Amgylcheddol yw fy nheitl swyddogol a hynny o fewn adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Mae’r 7 mis a gefais ar y Cynllun wedi bod yn ofnadwy o fuddiol i mi fel person ac ni fuaswn wedi cyrraedd y swydd bresennol heb y cyfleoedd a phrofiadau a gefais ar y cynllun. Felly mi fuaswn yn awgrymu i unrhyw un sydd yn meddwl ymgeisio, i wneud gan ei fod yn Gynllun ofnadwy o dda a buddiol i unigolyn fod yn rhan ohono.
Mae gweithio o adref ers cychwyn ar y cynllun ac mewn swydd newydd wedi bod yn brofiad a hanner ac yn sialens enfawr i mi ac eraill ond er hynny dwi wedi cael cyfleodd gwych. Mae bod yn rhan o’r rhwydweithiau a gwahanol gyfarfodydd a phrosiectau’r cynllun wedi galluogi mi ymgysylltu hefo gwahanol bobl ar draws y cyngor. Dwi wedi cael bod yn rhan o gyrsiau gwahanol drwy’r cynllun ac yn edrych ymlaen nawr yn fis Awst am gwrs tri diwrnod dwi’n cael ei wneud drwy’r cynllun er fy mod wedi gadael y cynllun. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i unigolion y cynllun yn ofnadwy o unigryw a gwerthfawr.
Dwi’n mwynhau yn fy swydd newydd rŵan ac yn edrych ymlaen at y dyfodol er mwyn gallu datblygu fel unigolyn a gwneud mwy o gymwysterau mewn rheoli’r Amgylchedd. Mae diolch mawr i’r cyfleoedd a gefais ar y cynllun ac yn lwcus iawn wedi gwneud ambell ffrind newydd hefyd, felly dwi wedi buddio’n ofnadwy o fod yn rhan o Gynllun Yfory.
Diolch am y 7 mis a phob lwc i’r unigolion sydd yn ymgeisio am y swyddi eleni!
Hwyl am rwan!
You must log in to post a comment.