Un peth oeddwn ni yn gweld yn anodd pan yn astudio i fod yn gyfreithiwr oedd beth yn union oedd diwrnod yn edrych fel i gyfreithiwr. Ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar faterion cyfreithiol i’r adran Eiddo a Priffyrdd, yn ogystal a gweithio ar ambell i fater Cynllunio.
I lawr yn fy nyddiadur y diwrnod yma oedd un cyfarfod am hanner awr i ddal fyny efo rhywun am sut oedd pethau yn mynd yn fy sedd presennol. Ond pan cychwynnais yn y gwaith, ges i ddiwrnod prysur ac amrywiol, felly oeddwn i yn meddwl y basa hi’n syniad da i mi wneud rhyw fath o ddyddiadur i ddangos diwrnod fel Hyfforddai Cyfreithiol gyda’r Cyngor.
Amser | Tasg |
8:00 | Cyrraedd fy nesg ac edrych trwy unrhyw e-byst sydd wedi cyrraedd ers y diwrnod cynt. Edrych ar fy nghalendr i weld beth sydd ymlaen heddiw. Gwneud rhestr o dasgau am y diwrnod. Cychwyn ateb a gyrru e-byst. |
9:00 | Cyfarfod er mwyn gwirio dogfennau sy’n ymwneud a mater llwybr troed. |
10:30 | Cyfarfod a aelod o’r Tîm Dysgu a Datblygu er mwyn dal i fyny efo cynnydd yn y sedd dw i arno ar hyn o bryd. |
11:00 | Trefnu efo aelod o’r swyddfa fod ffurflenni gwreiddiol arbennig sydd yn y swyddfa angen cael eu gyrru allan i mi er mwyn i mi gael eu llenwi tra yn delio efo mater. |
11:15 | Llenwi a cyflwyno ffurflen RX1 i Gofrestra Tir sydd yn rhoi cyfyngiad ar deitl eiddo |
12:00 | Cysylltu gyda gweinyddwr yn y swyddfa i drefnu fod gorchymyn yn cadarnhau llwybr i gael ei selio a’i arwyddo. |
12:15 | Galwad gan aelod o Tîm Dysgu a Datblygu yn trafod cyfleoedd hyrwyddo y Cynllun |
Amser Cinio | Bwysig gwneud yn siŵr fy mod yn camu o’r sgrin a mynd i nol rhywbeth i fwyta a diod. Weithiau dw i’n mynd am dro adeg yma, dibynnu sut ddiwrnod sydd gennyf ymlaen. |
13:00 | Cysylltu gyda’r adran Gynllunio er mwyn cael gwybodaeth benodol am gais cynllunio. Yna dilyn fyny gyda ambell i e-bost oedd wedi dod mewn yn ystod y bore (rhain yn cynnwys ceisiadau cynllunio, gwybodaeth bellach am materion dw i’n delio efo eisoes). |
13:15 | Gweithio ar ddogfennau yn ymwneud a sawl llwybr troed – rhai yn orchmynion newydd a rhai i ddiwygio. |
14:00 | Sgwrs am fater sy’n effeithio ar darn o dir sydd a teitl cymhleth gyda amryw o bobl yn berchen ar dir o gwmpas. Oedd hyn yn golygu llawer iawn o drafod a gwaith ymchwilio i’r mater |
15:15 | Cael fy nhynnu i mewn i waith ymchwil arall diddorol gyda Cofrestra dir ar dir sydd heb ei gofrestru. Roedd fy astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig bob amser wedi canolbwyntio’n bennaf ar dir cofrestredig, felly roedd yn ddiddorol edrych mewn i dir heb ei gofrestru. |
15:30 | Cyfarfod Teams i fynd yn ôl i drafod y cymhlethdodau o amgylch llwybr. |
16:00 | Rhoi cais i mewn er mwyn cael Cytundeb wedi ei selio yn y swyddfa. Oedd gennyf ddarnau o waith arall i’w wneud yn y cefndir yn ystod y dydd heddiw hefyd, ac felly rhwng cyfarfodydd roeddwn yn edrych ar geisiadau cynllunio a tystysgrifau defnydd cyfreithlon. |
17:30 | Gwneud gwaith paratoi at sesiwn Hyfforddiant DiSC efo criw Cynllun Yfory wythnos nesaf. Ailymweld a’r rhestr tasgau o ddechrau’r diwrnod i werthuso os oes rhywbeth angen ei orffen neu wneud cyn yfory. Byddaf hefyd yn taro golwg sydyn ar y calandr at yfory i wneud yn siŵr fy mod yn cofio am unrhyw gyfarfodydd neu y drefn |
Mae bob diwrnod mor amrywiol ac felly mae hi’n anodd rhoi ‘diwrnod arferol’ mewn amserlen, ond i’r rhai ohonoch sydd efo diddordeb, gobeithio fod hwn yn rhoi ychydig o syniad i chi or math o bethau dw i’n cael delio efo dydd i ddydd.
You must log in to post a comment.