Y Misoedd Cyntaf

Dwi wedi bod yn y swydd bellach ers 2 fis a dwi wedi dysgu llawer yn barod!

Roedd yr wythnosau cyntaf yn gyfle i ddod i adnabod pobl ar draws yr asiantaeth ac i ddod i ddeall ei strwythur unigryw gan ei fod yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Er fy mod wedi gweithio yn y maes dadansoddi data o’r blaen doedd gen i ddim gwybodaeth o asiantaethau ffyrdd ‘na rhwydwaith ffyrdd, felly dwi wedi bod yn ceisio amsugno cymaint o wybodaeth a sydd yn bosib! Wrth i’r wythnosau wedi pasio a dwi’n teimlo fy mod yn dechrau dod i ddeall y dermenoleg a’r data!

O ran dadansoddi data dwi wedi bod yn brysur iawn ers i’r cyfyngiadau ddod i rym. Mae llif traffig yn fesurydd da i weld os yw pawb yn cadw ar y cyfyngiadau. Mae ‘na yn ogystal achosion o or yrru ar lonydd gan eu bod wedi tawelu, ac rwyf wedi bod bod yn creu adroddiadau cyflymder yn nodi’r wybodaeth.

Fel arall dwi wedi bod yn trio ymdopi efo’r cyfyngiadau fy hun gan ei fod wedi newid y ffordd yr ydym yn byw a gweithio cymaint! Fel y soniais dwi yn mwyhau seiclo ac felly dwi wedi buddsoddi mewn Turbo Trainer er mwyn fy ngalluogi i seiclo yn y tŷ, ac i rhywun sydd yn ddamweingar mae wedi bod yn grêt i beidio gorfod methu unrhyw rwystrau.

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .