Nôl ym Mis Mai cefais fynd i westy’r Celtic Manor, dim ar wyliau neu i chwarae golff. Ond, i gynhadledd flynyddol yr IRMS. Hon oedd y gynhadledd gyntaf i mi fynychu ers ymuno a’r Cyngor felly roeddwn yn gyffrous i weld be fydd gan y 2 ddiwrnod i’w gynnig.
Mi wnaf roi ychydig o gefndir yn gyntaf i be oedd y Gynhadledd. Mae’r IRMS yn gymdeithas sy’n ymuno bob blwyddyn ac yn cynnal digwyddiad dros ddau ddiwrnod i bobl broffesiynol yn y maes gwybodaeth. Maent yn cynnal amrywiaeth o gyflwyniadau dros y dyddiau sy’n canolbwyntio ar:
- Diogelu Data
- Rhyddid Gwybodaeth
- Rheoli Cofnodion
Mae’r meysydd uchod yn berthnasol iawn i waith y Cyngor felly roedd yn ddifyr cael gwrando ar arbenigwyr maes yn rhannu profiadau ac arferiadau da, gobeithio mi gai roi be ddysgais dros y 2 ddiwrnod mewn effaith!
You must log in to post a comment.