
Mae’r amser wedi cyrraedd i ni ehangu criw Cynlluniau Yfory a chynnig swyddi arbenigol mewn ystod o feysydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb un ai yn y maes cyllid, cofrestru neu lesiant (anableddau dysgu) – yna nawr yw eich cyfle i ymgeisio i fod yn hyfforddai arbenigol yng Nghyngor Gwynedd!
Gellir gwneud cais ar gyfer Cynlluniau Yfory 2019 tan y 13/02/2019, ac felly mae’n amser i chi ddechrau llenwi’r ffurflen gais. Dyma ychydig o gyngor ar eich cyfer o fy mhrofiad i ar gyfer llenwi’r ffurflen gais.
TIP 1 – DARLLENWCH BECYN GWYBODAETH Y SWYDD
Mae’r pecyn gwybodaeth yn llawn gwybodaeth am rôl yr hyfforddai arbenigol felly darllenwch y pecyn yma yn gyntaf a gwnewch yn siŵr eich bod, nid yn unig yn gymwys i ymgeisio, ond eich bod hefyd yn deall beth yw rôl yr hyfforddai a’r maes y byddwch yn arbenigo ynddo, ac fel y gellwch deilwra eich cais i ymateb i’r hyn sydd yn ofynnol ohonoch.
Mae ystod o flogiau gan yr hyfforddeion ar ein safle hefyd, bydd y rhain o fudd i chi gael blas o beth yw rôl a rhai o brofiadau hyfforddai yng Nghyngor Gwynedd.
TIP 2 – DILYNWCH Y CANLLAWIAU
Mae gan y Cyngor ganllawiau ar gyfer tywys ymgeisydd drwy’r ffurflen gais. Darllenwch y canllawiau yma’n ofalus cyn dechrau llenwi’r ffurflen gais, boed ar-lein neu ar bapur, i sicrhau eich bod yn gwybod pa wybodaeth sydd angen cael ei chynnwys o dan bob pennawd yn y ffurflen.
TIP 3 – RHAN 8 Y FFURFLEN GAIS ‘GWYBODAETH BELLACH’
Mae cyfle i chi ehangu ychydig mwy yn rhan 8 ‘Gwybodaeth Bellach’ y ffurflen gais. Yn y rhan yma bydd disgwyl i chi roi enghreifftiau o sut mae eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch profiadau yn cwrdd â gofynion ‘Manylion y Person’.
Mae canllawiau penodol wedi’u llunio ar gyfer y rhan yma – darllenwch a dilynwch y canllawiau yma.
Sicrhewch fod eich ymateb yn dilyn y strwythur cywir ac o fewn y cyfrif geiriau gan gadw’r hyn yr ydych yn ei ysgrifennu yn glir ac yn gryno.
TIP 4 – AMSER
Cofiwch neilltuo digon o amser er mwyn llunio eich cais. Mae cyfnod ymgeisio am y swyddi yn bythefnos o hyd felly mae hen ddigon o amser i chi feddwl am yr hyn yr ydych am ei gynnwys yn eich cais, ac yna i gwblhau a chyflwyno eich ffurflen gais.
TIP 5 – DRAFFTIO
Sicrhewch eich bod yn darllen dros eich cais yn fanwl cyn ei gyflwyno i wneud yn siŵr eich bod yn hapus ag o, bod yr iaith yn gywir a’ch bod yn ateb y cwestiynau a ofynnir i chi. Fe ellwch hefyd ofyn i rywun arall megis aelod o’ch teulu neu ffrind i daro golwg arno.
Efallai ei fod yn haws i chi ddrafftio cynnwys eich cais ar bapur neu ddogfen ar wahân cyn ei osod yn y ffurflen gais ar-lein / ffurflen gais bapur.
TIP 6 – CAIS CYNHWYSFAWR
Peidiwch â thybio y bydd y panel penodi yn ymwybodol o’ch cymwysterau, profiadau a galluoedd – sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y rhai yr hoffech eu hamlygu, ac at y rheiny sy’n berthnasol.
TIP 7 – HOLWCH
Os nad ydych yn sicr o unrhyw elfen sy’n gysylltiedig â’r swydd neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â ni ac fe wnawn ein gorau i’ch cynorthwyo.
Pob lwc wrth lunio eich cais!
Dyma linciau a fydd o gymorth i chi lenwi eich cais:
You must log in to post a comment.