Ymddiheuriadau am fy absenoldeb o’r blog. Ers 3 mis rwyf wedi cychwyn ar fy lleoliad cyntaf a hynny’n yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyffro a phrysurdeb mawr!!
Braf yw cael ymuno â’r tîm clos sydd yma’n y Depot i fyny yng Nghibyn, Caernarfon er mwyn gweithio ar fy mhrosiectau. Rhaid i mi gadw manylion y prosiect yn “hush-hush” gan nad yw’r wybodaeth eto’n barod i’w gyhoeddi!. Ond, gallaf gallaf roi cliw bach i chi – mae’n ymwneud â maes Ailgylchu!
Does dim amheuaeth bod ailgylchu yn faes allweddol erbyn hyn. Rwy’n siwr eich bod chi i gyd wedi clywed y term ‘zero waste’ gan y Llywodraeth. ac felly rwy’n ystyried fy hun yn lwcus iawn yn cael gweithio o fewn maes mor amserol a phwysig.
Mae fy niwrnodau yn amrywio….un diwrnod gallaf fod yn y swyddfa mewn cyfarfodydd neu’n gweithio wrth fy nesg…..a’r diwrnod nesaf gallaf fod yn teithio o gwmpas Gwynedd yn y Fan Ailgylchu yn ymweld â staff rheng flaen.
Yn anffodus, rwyf hefyd yn ymwybodol bod fy nghyfnod yn yr adran yma’n brysur fynd felly rwyf am drio gwneud y mwyaf o’r profiadau sydd ar ôl i mi yma!
Tan tro nesaf!
Sara (Cynllun Rheolwyr Yfory)
You must log in to post a comment.