Mae ceisio eistedd i ysgrifennu’r blog yma yn gymysgedd o deimladau gan mai dyma yw fy mlog olaf fel Hyfforddai Rheoli ar Gynllun Yfory Cyngor Gwynedd. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rydw i wedi dysgu llawer ac wedi datblygu nid yn unig fel unigolyn ond yn fy rôl broffesiynol hefyd, ac erbyn hyn wedi … Continue reading Diwedd cyfnod…
Blwyddyn: 2019
Rhoi iechyd meddwl ar yr agenda
Roeddwn wedi gwirioni pan glywais fod siaradwr gwadd yn mynd i fod yn trafod iechyd a lles meddyliol yn ein cyfarfod adran nesaf. Yma, yn y cyfarfod, nes i allu gwerthfawrogi pa mor bwerus ydi cael rhywun yn sefyll o’ch blaenau ac yn rhannu eu profiadau yn gwbl agored. Chwalfa feddyliol... Geiriau pwerus. Disgynnodd distawrwydd … Continue reading Rhoi iechyd meddwl ar yr agenda
Cynhadledd IRMS
Nôl ym Mis Mai cefais fynd i westy’r Celtic Manor, dim ar wyliau neu i chwarae golff. Ond, i gynhadledd flynyddol yr IRMS. Hon oedd y gynhadledd gyntaf i mi fynychu ers ymuno a'r Cyngor felly roeddwn yn gyffrous i weld be fydd gan y 2 ddiwrnod i’w gynnig. Mi wnaf roi ychydig o gefndir … Continue reading Cynhadledd IRMS
Cyfnod o Secondiad
Erbyn hyn mae fy nghyfnod yn y tîm caffael yn yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi dod i ben, ond tydw i heb symud ymlaen i’r lleoliad nesaf fel y disgwyl. Yn hytrach, rwyf wedi dod oddi ar y Cynllun am y tro, ac ar gyfnod o secondiad fel swyddog yn y tîm contractio a … Continue reading Cyfnod o Secondiad
Cymryd ‘NAP’
Helo a chroeso nôl i’m blog! Roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da defnyddio’r cyfle yma i roi cipolwg i chi o fy nghymhwyster yn y maes cofrestru. Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod, mae pob un ohonom (Rheolwyr Yfory ac Arbenigwyr Yfory) fel rhan o’n rôl efo’r cyfle i gwblhau cymhwyster sy’n berthnasol i’n … Continue reading Cymryd ‘NAP’
Trefnu cais a cyfri’r dyddiau tan y cymhwyster
“Meilir you said? And how do I spell that sorry?” Fel hyn ddechreuodd fy nghyfweliad ffôn ar gyfer y cymhwyster. Chwarae teg, dydw i’m yn siŵr pa mor aml mae aelodau staff Prifysgol Birmingham yn dod ar draws rhywun o’r enw Meilir. Er mwyn sicrhau fy lle ar y cymhwyster cyfweliad dros y ffôn oedd … Continue reading Trefnu cais a cyfri’r dyddiau tan y cymhwyster
Cyfnod o Secondiad
Coeso nôl i’m cofnod blog! Mae llawer wedi digwydd ers i mi eich diweddaru, felly dyma gip-olwg o'm hanes dros y misoedd dwetha'! Y newyddion mwyaf sydd gen i yw fy mod wedi derbyn secondiad o fewn yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol fel Swyddog Data Gwastraff/Ailgylchu. I restru dim ond ychydig, mae fy rôl yn cynnwys … Continue reading Cyfnod o Secondiad
Lleoliad Addysg a diweddariad Cymhwyster CMI Lefel 7
Ga'i ddechrau drwy ddweud helo mawr i bob un ohonoch chi. Mae blwyddyn gyntaf fy nghyfnod fel hyfforddai rheoli Cyngor Gwynedd wedi hedfan heibio, a dwi bellach wedi cael fy lleoli yn yr adran addysg ers Tachwedd 2018. Oherwydd natur ymgynghoriadau mewnol a chyhoeddus dwi ddim wedi nac yn gallu adrodd ar gynnwys y gwaith … Continue reading Lleoliad Addysg a diweddariad Cymhwyster CMI Lefel 7
Eisteddfod… yn yr Eisteddfod, Ieee!
Ma ne fwy i’r cynllun yma na swyddfa a gwleidyddiaeth, wir i chi. Ers y blog dwythaf mi ydw i wedi bod yn cyd-weithio yn agos hefo Meilir ac Emily i baratoi at ddiwrnod yn yr Eisteddfod. I be, glywai chi’n gofyn? Pam fod rhywun yn yr adran gyllid yn mynd i’r Eisteddfod? Mewn … Continue reading Eisteddfod… yn yr Eisteddfod, Ieee!
Gwleidyddiaeth Gwynedd
Gan fod yr ochr Wleidyddol yn cael cymaint o ddylanwad ar waith dydd i ddydd y Cyngor ac ar y ddarpariaeth i bobl Gwynedd roeddwn i’n meddwl y byddai’n ddiddorol rhoi trosolwg ar be ‘di be o’r hyn rydw i wedi gweld yn y misoedd cyntaf gan ei glymu hefo fy ngwaith yn y swydd. … Continue reading Gwleidyddiaeth Gwynedd