Yn ddiweddar fe fynychais gynhadledd flynyddol CIPS (Chartered Institute of Procurement and Supply) yn Llundain. Rhag ofn nad ydych chi wedi dod ar draws fy mlogiau blaenorol yn sôn am CIPS – dyma’r corff proffesiynol mwyaf ar gyfer y maes caffael a chyflenwi ar draws y byd, a gyda hwy yr wyf yn astudio fy nghymhwyster.
Pam penderfynu mynychu?
Rwy’n credu bod budd mawr i fynychu cynadleddau er mwyn datblygu dealltwriaeth ehangach a chael cyfle i rwydweithio a rhannu arferion da. Gan fy mod yn astudio cymwysterau CIPS ac mae dyna yw’r corff arweiniol ym maes caffael, roeddwn yn awyddus iawn i gael cyfle i fynychu er mwyn ehangu fy nealltwriaeth o’r maes caffael tu hwnt i’r hyn ydym yn ei wneud yng Nghyngor Gwynedd a chael y cyfle i gyfarfod arbenigwyr caffael eraill i weld beth yw’r arferion caffael mewn cwmnïau a chyrff eraill.
Rhai o’r pethau a drafodwyd?
Cafwyd cyflwyniad am y maes caffael yn gyffredinol, yr economi, yr effaith y mae Brexit yn debygol o’i gael a sut i ddelio â hynny. Yn ystod y sesiynau byrrach, cafwyd trafodaeth ynglŷn â phwysigrwydd sgiliau meddal gan swyddogion yn y maes caffael, sut i arwain newid, a’r manteision ac anfanteision o ddelio gyda chwmnïau mawr neu fusnesau bach a chanolig.
Beth oedd uchafbwynt y gynhadledd?
Roedd cymaint o sesiynau buddiol drwy gydol y dydd, mae wir yn anodd dewis un uchafbwynt! Un peth gwych oedd gweld cymaint o wahaniaeth y gall gwasanaeth caffael ei wneud a’r gwahanol ffyrdd y gellir gwneud hynny. Yn aml iawn, yr ymateb a geir wrth drafod caffael yw ymateb negyddol wrth i amryw ei weld fel rhwystr bod rhaid mynd drwy broses a rhoi ychydig mwy o ystyriaeth i brynu gwasanaeth neu newydd. Ond mae caffael yn wasanaeth cwbl ganolog i unrhyw sefydliad ac mae’r ystyriaethau yn y broses gaffael yn gallu gwneud gwir wahaniaeth – arbed arian neu gael gwell gwerth am arian, sicrhau bod yr hyn a gaiff ei gaffael yn safonol drwy’r cadwyni cyflenwi (megis cyflogaeth foesegol neu’r amgylchedd).
Roedd hefyd yn anhygoel i glywed gan arbenigwyr arweiniol y maes a rhwydweithio a rhannu gwybodaeth gyda chyfoedion o’r maes caffael, a chael dod â’r wybodaeth hynny yn ôl i Gyngor Gwynedd!
You must log in to post a comment.