“YOU GO GIRL”
Dyna oedd yr ymateb gefais gan un o drigolion Pwllheli tra roeddwn yn casglu biniau gwastraff ben bore!
Tra’n hel atgofion am y mis a dreuliais yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdistrefol synnais wrth gofio am yr holl brofiadau a gafodd eu gwasgu I’r cyfnod byr hwnnw. Cefais drosolwg manwl o waith Ailgylchu yn bennaf trwy gyd-weithio gyda Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Dwyfor. Roeddwn hefyd wedi cael y cyfle I gymryd rhan mewn tasgau megis ‘Asesu Cyfarpar’ a ‘Codi Ymwybyddiaeth’ yn ogystal a mynychu cyfarfodydd gyda uwch rheolwyr. Mi fues I hefyd yn helpu’r gweithwyr rheng-flaen ar y lori sbwriel / ailgylchu!
Y peth a’m trawodd fwyaf yn ystod fy ymweliad oedd malyder y trefniadau a’r cyfathrebu oedd yn angenrheidiol er mwyn darparu y gwasanaeth gorau bosib I drigolion Gwynedd. Does dim amheuaeth bod fy mhrofiadau wedi bod yn agoriad llygad!
You must log in to post a comment.