Nos Fercher diwethaf (17.10.18) cawsom y fraint fel hyfforddeion o gynnal sesiwn Cyfathrebu’n Effeithiol gyda 65 o bobl ifanc 16-17 mlwydd oed o Ynys Môn a Gwynedd yn rhan o sesiynau Rhwydwaith Seren.
Y brîff oedd dyfeisio sesiwn dwy awr a fyddai yn edrych ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu’r unigolion mewn modd effeithiol ond hwyliog. Gan fod cynifer o bobl ifanc yn mynychu penderfynodd y pump ohonom fel hyfforddeion gyd-weithio i sefydlu grŵp tasg er mwyn gallu ymateb i’r cais.
Roeddem i gyd yn gyffrous tu hwnt o gael y cyfle, ond roedd dipyn o grafu pen hefyd, wrth feddwl sut fath o weithgareddau fyddai yn apelio yn y gweithdy. Yn y diwedd penderfynom ganolbwyntio ar dair agwedd er mwyn datblygu:
- Datblygu rhwydweithiau a chysylltiadau
- Ymarfer y sgil o flaenoriaethu a chynnal trafodaeth
- Datblygu eu gallu i siarad am gyfnod penodol o amser ar unrhyw destun
Roedd y tasgau roeddem yn eu cynnig wedi eu teilwra i gyfarch yr anghenion uchod gyda cymysgedd o chwarae bingo dynol, dadleuon ynglŷn a phwysigrwydd cwblhau tasgau BAC, mynychu prom, a disgwyliadau i fod yn brif ddisgybl yr ysgol, yn ogystal a dau funud (hir!) yn trafod pynciau megis pa anifail byddem yn dewis bod a pam, ac a yw Facebook yn gwneud ein cymunedau yn anhapus?
Fe wnes i fwynhau’r profiad yn arw o gael cynnal gweithgaredd yn y rhwydwaith a chyfarfod amryw o’n unigolion ifanc talentog sydd yn byw yng Ngwynedd ac yn Ynys Môn gan obeithio eu bod nhw wedi mwynhau gymaint a mi!
Rhaid i chi fewngofnodi er mwyn cofnodi sylw.