Gan ei bod hi wedi bod yn braf, roeddwn i’n meddwl bysa hi’n neis cael trefnu amser ar y traeth! Lwcus fod hyn yn berthnasol i be roeddwn wedi bod yn gweithio ar!
Mi wnes i drefnu i ymweld ar adran forwrol gan eu bod nhw hefyd am gyflwyno’r defnydd o’r ‘Body Worn Cameras’ i’w staff. Cefais dreulio dau ddiwrnod gyda’r adran yma yn ymweld â thraeth Abersoch a thraeth Morfa Bychan.


Eto, roedd yna amrywiaeth o bethau i’w wneud wrth i mi weithio ar adrannau yma, fel:
- Patrolio y traeth I wneud yn siwr fod y traeth yn lân ac yn saff I’r cyhoedd
- Sicrhau bod yr arwyddau perthnasol i’w gweld yn glîr at y traeth. E.e Arwyddau Parcîo a Cŵn.
- Casglu ffîoedd parcîo a ffîoedd lawnsio cychod a ‘jet-skis’
Roedd y swydd yn yr adran forwrol yn gallu bod yn heriol i’r staff. Mae’n ddyletswydd iddyn nhw wneud yn siŵr nid oes cŵn yn yr ardaloedd anghywir, ac nid pawb sy’n hapus i symud! Gallaf weld ar adegau heriol fel yr uchod gall gael camerâu fod yn fantais i’r swyddogion.
You must log in to post a comment.