Newid.
“Tydi pobl ddim yn licio newid.”
Pam? Rydym ni yn delio gyda newid pob dydd. Diwrnod gwahanol. Tywydd gwahanol. Siarad gyda pobl gwahanol. Ond wrth sôn am newid yn y gweithle mae hi’n stori wahanol.
“Does dim angen newid.”
“Tydi trio ddim werth y risg.”
“Tydw i ddim mewn lle i ddweud dim byd.”
“Neith o ddim gweithio beth bynnag.”
Swnio’n gyfarwydd? Does bosib eich bod chi yn gwbwl fodlon ac yn hapus yn cael eich cario yn rhan o’r un systemau a phrosesau rydych wedi eu hetifeddu gan eraill ar hyd y blynyddoedd? Does bosib nad ydych chi yn cwyno am rywbeth yn ystod eich diwrnod gwaith. Felly, tybed oes yna ryw reswm dyfnach tu ôl i’r awydd i aros yr un fath?
Ymddiried.
Yn gyffredinol mae teimladau yn gysylltiedig a phrofiadau. Os ydych chi yn unigolyn sydd wedi bod yn ran o newid aflwyddiannus, anffafriol, a wnaeth arwain at lanast llwyr, does ryfedd nad ydych chi yn berson sydd yn hoffi clywed am newidiadau.
Nid ydych chi bellach yn ymddiried mewn unigolyn, arweinydd, neu sefydliad i wneud y penderfyniad cywir ar eich rhan, i newid er gwell.
Fodd bynnag, gyda’r arweiniad cywir fe all newid fod yn brofiad positif, ac nid dim ond y rheolwyr sydd yn gallu creu newidiadau bellach.
Gweithredu.
Gall newid weithredu ar unrhyw lefel gyda’r cynhwysion cywir.
- Mae’n rhaid bod yn anfodlon gyda’r sefyllfa bresennol. Bydd hyn yn creu’r ysfa i fod eisiau newid.
- Er mwyn creu newid yn llwyddiannus, mae’n rhaid gallu gweld y dyfodol sydd yn gweithredu er gwell a gwybod ble rydych yn anelu i’w gyrraedd.
- Bydd cymryd camau bach tuag at y newid yn creu ymdeimlad o lwyddiant byr-dymor, gan godi hyder a morâl y staff, ond cofiwch gadw eich llygad ar y nod hir-dymor!
- Peidiwch a chymryd barn eraill yn bersonol – bydd cyfathrebu yn agored yn creu tîm sydd yn ymddiried yn ei gilydd. Bydd hyn yn lleihau unrhyw wrthwynebiad i newid a bydd pawb eisiau iddo lwyddo.
- Peidiwch a bod ofn mentro – cynigiwch eich barn a’ch syniadau. Pwy a wŷr – efallai bydd eraill yn cytuno gyda chi!
You must log in to post a comment.